Stephen Thomas
Roedd yr hwyliwr sonar, Stephen Thomas, yn siomedig pan ddaeth yn 6ed yn Athen, ond mae'n benderfynol o ennill medal yn Beijing yn 2008! Curodd ei dîm bencampwyr Paralympaidd 2004 a phencampwyr byd 2002 i gymryd teitl Pencampwyr Byd 2005 yr IFDS mewn Hwylio i'r Anabl. Aethant ymlaen yn llwyddiannus i amddiffyn eu teitl yn 2006. Mae Stephen yn chwarae hoci sled hefyd.
