Nathan Stephens
Dewiswyd y Cymro Nathan yn Athletwr Ifanc y Flwyddyn ym Mhrydain ar ôl mwynhau llwyddiant mewn chwech o chwaraeon, yn cynnwys taflu'r ddisgen, y waywffon a'r maen. Dim ond 17 oed ydoedd pan fu'n cystadlu fel aelod o dîm hoci sled Prydain yng Ngemau Paralympaidd y Gaeaf yn Turin yn 2006.
