Lee Pearson
Enillodd Lee dair medal aur am farchogaeth yn Sydney a thair arall yn Athen. Lee yw'r unig farchog Paralympaidd i ennill teitl ym Mhencampwriaeth Cenedlaethol Hyweddu (Dressage) Prydain yn erbyn marchogion abl eu cyrff. Ef hefyd oedd y cyntaf i fynd i Oriel Enwogion Cymdeithas Ceffylau Prydain. Daeth yn Fabolgampwr Anabl y Flwyddyn y BBC ddwy waith ar gyfer Canolbarth Lloegr, ac enillodd MBE ac OBE am ei wasanaeth i chwaraeon yr anabl.
