Danny Crates
Dechreuodd y cyn-chwaraewr rygbi, Danny, ei yrfa athletaidd fel rhedwr 400m. Pan fu'n cystadlu'n rhyngwladol am y tro cyntaf ym Mhencampwriaeth y Byd, enillodd ei dîm y fedal arian yn y ras gyfnewid 4 x 400m gan osod record Ewropeaidd newydd. Enillodd Danny Bencampwriaeth Dan Do y Byd a Phencampwriaeth Ewrop yn yr 800m, daliodd record y byd, ac enillodd y fedal aur yn Athen ac yng Nghwpan y Byd 2006.
