Gweithgaredd

Mae'r Parth Dysgu yn cynnwys deg gweithgaredd i ddisgyblion rhwng 9 ac 16 oed yn yr ystafell ddosbarth. Mae pob gweithgaredd yn generig a gallwch eu defnyddio gydag amrywiaeth o bynciau ac mewn gwahanol sefyllfaoedd dysgu. Mae'r ffocws ar helpu disgyblion i ddod i ddeall yr hyn mae athletwyr Paralympaidd wedi'i gyflawni a defnyddio hyn i feddwl am eu llwyddiannau academaidd, chwaraeon a chymdeithasol eu hunain. I wneud hyn yn agored i bawb, rydym yn defnyddio'r syniad o 'eich gorau personol' mewn nifer o'r gweithgareddau.

Dyma'r deg gweithgaredd:


Gweithgaredd 01 - Y byd Paralympaidd Gweithgaredd 01 - Y byd Paralympaidd

Mae'r disgyblion yn archwilio byd athletwyr 'anabl' ac yn derbyn gwybodaeth eglur am wir ystyr y term 'Paralympaidd'.
Ffocws ar siarad.


Gweithgaredd 02 - Mynd i hwyl Gweithgaredd 02 - Mynd i hwyl

Mae'r disgyblion yn defnyddio cofnodion Sportography i ganfod yn union beth mae athletwyr Paralympaidd yn ei gyflawni a sut maen nhw'n cael eu canlyniadau rhyfeddol.
Ffocws ar siarad.

Gweithgaredd 03 - Ewch amdani! Gweithgaredd 03 - Ewch amdani!

Mae'r disgyblion yn edrych ar y syniad o osod targedau ac amcanion drwy glywed syniadau llawn ysbrydoliaeth gan athletwyr Paralympaidd.
Ffocws ar siarad ac ysgrifennu.

Gweithgaredd 04 - Y darlun mawr! Gweithgaredd 04 - Y darlun mawr!

Dyma'r gweithgaredd cynhwysfawr cyntaf yn y pecyn Gallu v. Gallu. Mae'n archwilio sut mae posteri'n gweithio, yna mae'r disgyblion yn creu eu posteri eu hunain i hybu'r Gemau Paralympaidd.
Ffocws ar ysgrifennu.

Gweithgaredd 05 - Diwrnod ym Mywyd... Gweithgaredd 05 - Diwrnod ym Mywyd...

Mae'r disgyblion yn creu 'Diwrnod ym Mywyd...' athletwr Paralympaidd gan ddefnyddio clipiau o gyfweliadau a defnydd fideo i gael gwybodaeth. Cânt esboniad o strwythur y math yma o ysgrifennu cyn iddynt greu eu gwaith eu hunain.
Ffocws ar ysgrifennu.
Mae gan y gweithgaredd yma daflen canllawiau athrawon ar wahân (rhif 05).

Gweithgaredd 06 - Dyma rai o fy hoff bethau Gweithgaredd 06 - Dyma rai o fy hoff bethau

Ydy 'eich hoff bethau a'ch cas bethau' yn datgelu pa fath o berson ydych chi? Mae'r gweithgaredd yma'n archwilio sut y byddwn yn ffurfio barn am bobl.
Ffocws ar siarad ac ysgrifennu.

Gweithgaredd 07 - Mae'n anodd ond mae'n ein gwneud ni'n gryfach! Gweithgaredd 07 - Mae'n anodd ond mae'n ein gwneud ni'n gryfach!

Mae'r gweithgaredd yma'n edrych ar amserlen hyfforddiant Liz Miller, sgïwr Paralympaidd, pan fydd yn paratoi ar gyfer cystadleuaeth. Yna caiff y disgyblion eu hannog i feddwl sut maen nhw'n asesu eu llwyddiant eu hunain mewn chwaraeon.
Ffocws ar ddarllen ac ysgrifennu.

Gweithgaredd 08 - Hybu'r Gemau Paralympaidd Gweithgaredd 08 - Hybu'r Gemau Paralympaidd

Mae'r disgyblion yn dysgu sut mae logos yn gweithio ac yna'n dyfeisio eu logo Paralympaidd eu hunain ar gyfer Gemau Llundain 2012 gan ddefnyddio logos Gemau Paralympaidd Athen a Beijing fel man cychwyn. Yn debyg i bob gweithgaredd ysgrifennu arall, mae'r disgyblion yn derbyn canllawiau i'w helpu i gynhyrchu'r gwaith ysgrifennu gorau posib.
Ffocws ar ysgrifennu.

Gweithgaredd 09 - Cadw'n Heini! Gweithgaredd 09 - Cadw'n Heini!

Mae'r disgyblion yn creu datganiad i'r wasg sy'n hybu Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain yn 2012. Yna, bydd hwn wedi'i ddefnyddio mewn cyfweliad ar ffurf rhaglen newyddion teledu. Bydd y disgyblion yn derbyn canllawiau ar sut i ysgrifennu'r datganiad i'r wasg.
Ffocws ar siarad ac ysgrifennu.
Mae gan y gweithgaredd yma daflen canllawiau athrawon ar wahân (rhif 06).

Gweithgaredd 10 - Bywyd PB! Gweithgaredd 10 - Bywyd PB!

Mae'r disgyblion yn defnyddio technoleg unigryw FrameGrabber i gynhyrchu eu fideo hyrwyddol personol eu hunain i'w ddefnyddio yn yr ysgol.
Ffocws ar siarad ac ysgrifennu.

Mae rhywfaint o arweiniad ar sut i ddarparu bob gweithgaredd wedi'i gynnwys yn y gweithgaredd ei hun ond mae llawer mwy o arweiniad i'r athrawon yn y Parth Athrawon. Does dim rhaid glynu'n dynn at y canllawiau yma ond maent yn ateb gofynion pedwar cwricwlwm cenedlaethol Prydain. Rydym wedi darparu gwledd o ddefnyddiau cefnogi i athrawon, yn amrywio o ddulliau generig i gynllunio yn yr ystafell ddosbarth drwy ddulliau addysgu penodol fel modelu ysgrifennu. Mae'r defnydd i gyd yn canolbwyntio ar ddull uniongyrchol o addysgu sy'n llafar, bywiog a rhyngweithiol. Mae cysylltiadau hefyd at bob un o'r cwricwla cenedlaethol.