Hygyrchedd
Dyma'r datganiad hygyrchedd swyddogol ar gyfer gwefan y Gemau Paralympaidd.
Er ein bod wedi gwneud profion eang ar y wefan hon, efallai bod rhyw agwedd ohoni nad yw'n gweithio'n dda, neu a allai weithio'n well gyda'ch technoleg gynorthwyol chi. Os felly, anfonwch eich gwybodaeth a'ch awgrymiadau i accessibility@ctad.co.uk os gwelwch yn dda. Rydym yn ymdrechu drwy'r amser i roi'r profiad gwylio gorau posib i'n defnyddwyr. Diolch!
Crynodeb o gydymffurfiad â'r safonau
Cyn belled ag y gallwn, rydym wedi ceisio sicrhau:
- Bod bob tudalen ar y wefan hon yn defnyddio'r CSS ar gyfer y cynllun ac y dylai ddiraddio'n osgeiddig ar borwyr Gwe nad ydynt yn cyfateb â'r safonau.
- Bod bob dalen arddull yn cydymffurfio ag argymhellion W3C.
- Bod bob tudalen ar y wefan hon yn defnyddio marcio semantig ffurfiol: mae'n defnyddio tagiau h1 ar gyfer prif deitlau, tagiau h2 ar gyfer is-deitlau, ac ati.
- Bod bob tudalen yn cydymffurfio â chanllawiau blaenoriaeth 1 Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We W3C.
- Bod bob tudalen yn dilysu fel XHTML 1.0 Trawsnewidiol.
Bysellau Cyrchu
Mae'r mwyafrif o borwyr yn cefnogi neidio at ddolenni penodol drwy deipio bysellau sydd wedi'u diffinio ar y wefan. Ar gyfrifiadur personol gallwch wasgu ALT + bysell gyrchu (gyda rhai porwyr efallai y bydd angen i chi bwyso ENTER hefyd i weithredu dolen). Ar Macintosh, gallwch wasgu CONTROL + bysell gyrchu.
Mae'r bysellau cyrchu yma wedi'u darparu:
- Bysell gyrchu S: Neidio at y cynnwys
- Bysell gyrchu 0: Datganiad hygyrchedd
- Bysell gyrchu 1: Tudalen hafan
Newid maint y testun
Os yw'r testun ar y dudalen yn rhy fach i chi ei ddarllen, gallwch addasu eich porwr (Internet Explorer, Mozilla, Netscape Navigator neu raglen debyg) i wneud y testun yn fwy. Os ydych yn defnyddio Internet Explorer, dewiswch View yna Text Size a dewiswch Medium, Larger neu Largest. Yn yr un modd, yn Netscape, dewiswch View yna Text Zoom.
Neu, mae rhai porwyr yn gadael i chi newid maint y testun gan ddefnyddio'r bysellfwrdd:
Bysell 'Ctrl' a...
- (i'w wneud yn llai)
+ (i'w wneud yn fwy)
0 (i fynd yn ôl i'r maint gwreiddiol)
Dolenni
Mae gan lawer o ddolenni nodweddion teitl sy'n disgrifio'r ddolen yn fanylach, heblaw bod testun y ddolen yn disgrifio'r targed yn llawn yn barod (e.e. pennawd erthygl). Cyn belled ag y bo modd, mae dolenni wedi'u hysgrifennu i wneud synnwyr o'r cyd-destun.
Delweddau
- Mae holl luniau'r cynnwys a ddefnyddiwyd yn y wefan hon yn cynnwys tagiau alt disgrifiadol. Mae graffeg a ddefnyddiwyd fel addurniad yn unig yn cynnwys tagiau alt nwl neu maent wedi'u harddangos drwy ddefnyddio dalennau arddull.
- Mae'r delweddau cymhleth yn cynnwys tagiau 'longdesc' neu ddisgrifiadau o fewn y llinell i esbonio arwyddocâd bob llun i ddarllenwyr anweledol.
Cynllun gweledol
- Mae'r wefan hon yn defnyddio meintiau ffont perthynol yn unig, sy'n gyfatebol â'r opsiwn 'maint y testun' a ddewisir gan y defnyddiwr mewn porwyr gweledol.
- Os nad yw eich porwr neu ddyfais bori'n cefnogi dalennau arddull o gwbl, dylai cynnwys bob tudalen fod yn ddarllenadwy beth bynnag.
- Mae gwybodaeth sydd wedi'i chyfleu gyda lliw ar gael heb liw hefyd i bobl sy'n methu gwahaniaethu rhwng lliwiau penodol neu sy'n defnyddio dyfeisiau sy'n dangos yr wybodaeth heb liw neu mewn ffordd anweledol.
- Rydym wedi osgoi cynnwys sy'n achosi i'r sgrîn fflachio.
Arall
- Rydym wedi defnyddio'r iaith fwyaf syml ac eglur sy'n addas ar gyfer cynnwys gwefan.
- Dim ond tablau html rydym wedi'u defnyddio i dablu data ac nid ydynt wedi'u defnyddio i roi ffurf i dudalennau neu i osod tudalennau allan.
- Rydym wedi sicrhau bod modd defnyddio'r tudalennau pan fydd sgriptiau, apletau, neu wrthrychau eraill o fewn rhaglenni wedi'u diffodd neu heb eu cefnogi.
- Byddwn yn sicrhau bod nodweddion sy'n gywerth â chynnwys dynamig wedi'u diweddaru pan fydd y cynnwys dynamig yn newid.
Adnoddau perthnasol pellach
Cyfeiriadau at hygyrchedd
- W3 accessibility guidelines (canllawiau hygyrchedd W3), sy'n esbonio'r rhesymau tu ôl i bob canllaw.
- W3 accessibility techniques (technegau hygyrchedd W3), sy'n esbonio sut i weithredu bob canllaw.
- W3 accessibility checklist (rhestr wirio hygyrchedd W3), canllawiau i hygyrchedd ar gyfer datblygwyr prysur.
- U.S. Federal Government Section 508 accessibility guidelines (Canllawiau hygyrchedd Adran 508 Llywodraeth Ffederal yr U.D.).
Meddalwedd hygyrchedd
- JAWS, meddalwedd darllen sgrîn ar gyfer Windows. Mae demo, cyfyngedig ei hyd, ar gael i'w lawrlwytho.
- Home Page Reader (Darllenydd Tudalen Hafan), meddalwedd darllen sgrîn ar gyfer Windows. Mae demo ar gael i'w lawrlwytho.
- Lynx, porwr gwe tesun-yn-unig sy'n rhad ac am ddim i ddefnyddwyr dall gyda dangosyddion Braille adfywiadwy.
- Links, porwr gwe testun-yn-unig sy'n rhad ac am ddim i ddefnyddwyr gweledol gydag ystod band isel.
- Opera, porwr gweledol gyda nifer o nodweddion sy'n ymwneud â hygyrchedd, yn cynnwys chwyddo testun, dalennau arddull y defnyddiwr, togl delweddau. Mae fersiwn y gallwch ei lawrlwytho ar gael yn rhad ac am ddim. Mae'n gyfatebol â Windows, Macintosh, Linux, a nifer o systemau gweithredu eraill.
Gwasanaethau hygyrchedd
- WebXACT, gwasanaeth rhad ac am ddim i ddadansoddi tudalennau gwe i weld ydyn nhw'n cyfateb â chanllawiau hygyrchedd. Mae fersiwn masnachol, nodweddion llawn, ar gael hefyd.
- HTML Validator (Dilysydd HTML), gwasanaeth rhad ac am ddim i wirio bod tudalennau gwe'n cydymffurfio â safonau HTML sydd wedi'u cyhoeddi.
- Web Page Backward Compatibility Viewer (Dangosydd Cytunedd am yn Ôl y Dudalen We), teclyn i edrych ar eich tudalennau gwe heb amrywiaeth o nodweddion porwr modern.
- Lynx Viewer (Dangosydd Lynx), gwasanaeth rhad ac am ddim i weld sut olwg fyddai ar eich tudalennau gwe mewn Lynx.
Adnoddau cysylltiedig
- WebAIM, sefydliad di-elw sydd wedi'i ymroddi i wella hygyrchedd defnyddiau dysgu ar-lein.
- Designing More Usable Web Sites (Dylunio Gwefannau mwy Defnyddiadwy), rhestr hir o adnoddau ychwanegol.
- Dive into Accessibility (Plymiwch i Hygyrchedd), canllaw ymarferol rhagorol i hygyrchedd y We.
