Y Gemau Paralympaidd
Croeso i'r Pecyn Paralympaidd Prydeinig newydd i Ysgolion –
Gallu v. Gallu.
Mae'r Gemau Paralympaidd ar gyfer yr haen uchaf o athletwyr sy'n perfformio ar eu gorau a, thrwy wneud hynny, maent yn ysbrydoli pobl ifainc i'w helpu i roi o'u gorau personol eu hunain.
Beth sydd ar y wefan?
- cyfweliadau gyda'r genhedlaeth newydd o athletwyr Paralympaidd;
- cronfa gyfryngau o luniau o athletwyr wrth eu gwaith a defnydd fideo Olympaidd;
- teclyn FrameGrabber i rewi, rhoi capsiwn a chadw delweddau o fideos;
- chwe cwis Paralympaidd hwyliog;
- deg gweithgaredd i ddysgwyr ifainc 9-16 oed;
- ffeiliau o ffeithiau am y mudiad Paralympaidd;
- dolenni poeth at amrywiaeth mawr o wefannau cysylltiedig;
- canllawiau cefnogol i athrawon;
- cysylltiadau i'r pedwar cwricwlwm cenedlaethol.
Amcanion y prosiect
Bydd yr adnodd newydd yma'n eich helpu i:
- hybu ymwybyddiaeth pobl o'r mudiad Paralympaidd;
- helpu pobl ifainc i werthfawrogi'n llawnach beth yw natur cymdeithas gynhwysol;
- cydnabod yr hyn mae athletwyr Paralympaidd yn ei gyflawni;
- dileu rhai o'r mythau am chwaraeon ac anabledd;
- rhoi esiamplau o ragoriaeth mewn chwaraeon, yn chwaraeon unigol a thîm.

